Stori Fatima

Fatima_kids_540x298

Mae Fatima’n byw yn Nigeria gyda’i brawd a’i rhieni. Ffermwr yw ei thad, ac mae sicrhau digon o fwyd i gynnal ei deulu yn peri gofid iddo. Ar hyn o bryd maent yn byw mewn tŷ sy’n perthyn i deulu arall.

Heb arian i brynu gwisgoedd ysgol, llyfrau a deunyddiau eraill, ni all Fatima fynd i’r ysgol.

“Fy enw i yw Fatima a dwi’n 10 mlwydd oed. Dwi’n byw gyda fy mrawd Umaru sy’n dair oed, a’m rhieni yn nhŷ ffrind. “Bob bore byddaf yn dweud fy mhader ac yn rhoi help llaw i fy mam drwy gasglu dŵr, coginio a thrwy wneud ambell i dasg arall o amgylch y tŷ. Os oes gennym nionod, byddaf yn mynd allan i gwerthu, ond os nad oes gennym rai’n sbâr byddaf yn aros adref. Gan fod fy rhieni’n dlawd, dydw i ddim yn mynd i’r ysgol. Mae hyn yn fy ngwneud i’n drist. Enw fy ffrindiau yw Fadila, Ummi a Hadiza. Wrth wylio fy ffrindiau’n cerdded i’r ysgol byddaf yn teimlo mor ddigalon. Byddwn wrth fy modd pe bawn yn gallu ymuno â hwy yn hytrach na mynd allan i werthu. Os byddwn yn mynd i’r ysgol rhyw ddiwrnod, hoffwn weithio mewn ysbyty”.

Ni chafodd rhieni Fatima erioed mo’r cyfle i fynd i’r ysgol. Dywed mam Fatima, sef Hadiza: “Hoffwn i Fatima a’i brawd fynd i’r ysgol, ond ni allwn fforddio’r ffioedd ysgol. Pe baent yn cael eu haddysgu, byddai eu dyfodol yn ddisgleiriach”.

Download resources