Adnoddau yn y Gymraeg

Croeso i dudalen Gymraeg yr Ymgyrch Fyd-Eang Dros Addysg.

Er i arweinwyr y byd osod targed nol yn y flwyddyn 2000 i sicrhau fod pob plentyn yn y byd yn derbyn addysg erbyn 2015, mae’n ffaith fod dros 62 miliwn o blant ledled y byd dal ddim yn cael y cyfle i fynychu’r ysgol. Dim ond 3 blynedd sydd ar ôl i gyrraedd y targed, felly mae angen i’n harweinwyr weithredu.

Mae eleni wrth gwrs yn flwyddyn y gemau Olympaidd, gemau sydd yn rhoi cyfle i athletwyr o bob cwr o’r byd i brofi eu galllu mewn cannoedd o weithgareddau chwaraeon ac athletau. Dylai pob plentyn yn y byd gael y cyfle i gyflawni gymaint ac y gallent, ac mae addysg yn gallu rhoi’r cyfle hwnnw iddynt.

Bydd ein hymgyrch ar gyfer 2012 yn cynnwys ystod o weithgareddau addysgiadol, creadigol a llawn hwyl i ysbrydoli disgyblion eich ysgol yn ystod Tymor yr Haf 2012.

Ar y dudalen hon, bydd fersiynau Cymraeg o rai o brif adnoddau’r ymgyrch ar gael i’w lawrlwytho. Ar hyn o bryd, mae adnoddau o 2011 ar gael isod - canllaw i athrawon a phosteri astudiaethau achos – ynghyd â chynlluniau gwersi cyffredinol ar y pwnc addysg i bawb. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon wrth i adnoddau Cymraeg ar gyfer ymgyrch 2012 gael eu cynhyrchu dros y misoedd nesaf.
Yn y cyfamser, os yr hoffech drafod unrhyw faterion yn ymwneud â’r Ymgyrch Fyd-Eang Dros Addysg yng Nghymru, yna plis cysylltwch â Vicky Leech, Cynghorydd Addysg ag Ieuenctid Oxfam Cymru - vleech@oxfam.org.uk / 0300 2001269.

Felly cofrestrwch nawr i dderbyn eich Pecyn Ysgolion yn rhad ac am ddim, a helpwch ni i fynd am y fedal aur gyda’n hymgyrch eleni!

Ar eich marciau ar gyfer 2012!

Pecyn Ysgolion

Posteri yn adrodd straeon
Cyfle i rannu straeon bywydau pedair merch - Arpita, Kaltume, Maua a
Shengai

Canllaw i Athrawon
Gyda cyfarwyddiadau cam wrth gam i'ch cynorthwyo i gymryd rhan yn yr ymgyrch eleni ynghŷd â thempledi ar gyfer negeseuon eich disgyblion.

Welsh/English bi-lingual lesson plans

Click here to view the bi-lingual activities and resources (NB these activities are suitable for both Primary and Secondary students).

Education Cake / Teisen Addysg

Ages: 8-14 / Oed: 8-14
Download lesson
This activity examines what the ingredients of a good education are.

My Ideal Teacher / Fy Athro Delfrydol

Ages: 8+ / Oed: 8+
Download lesson
Pupils are asked to think about what makes an ideal teacher.

Line Up for Children’s Rights in Education / Sefwch dros Hawliau Plant mewn Addysg

Age: 10+ / Oed: 10+
Download lesson
In this activity students are asked to Agree or Disagree with statements about rights to education.

An Education in Sight / Golwg ar addysg

Ages: 8+ / Oed: 8+
Download lesson
For this activity you will need to have Nabirye’s case study.
Astudiaeth Achos: Nabirye (Welsh language version).

Education and Conflict / Addysg a Gwrthdaro

Age: 8+ / Oed: 8+
Download lesson
For this lesson you will need Pedro’s case study and Eduardo’s case study.
Astudiaeth Achos: Eduardo (Welsh language version).
Astudiaeth Achos: Pedro (Welsh language version).